Login IconLogin / Register/ Consumer Helpline delivered by Citizens Advice 0808 223 1133

News

Cyfraith Newydd yn dod i rym ar 1 Hydref

Posted 08/09/21

Mae Safonau Masnach Cymru yn cefnogi menter gan Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf i leihau marwolaethau o adweithiau alergaidd.

Rhyddhaodd Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf, sef partneriaeth rhwng cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Dinas Casnewydd a Thorfaen, adnodd alergen amlieithog newydd ar gyfer busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i helpu diogelu’r ddwy filiwn neu fwy o bobl sy’n byw gydag alergedd bwyd wedi’i ddiagnosio yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r deunyddiau’n cael eu rhyddhau ychydig cyn i Gyfraith Natasha ddod i rym. Mae’r gyfraith newydd, sydd i fod i gael ei deddfu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 1 Hydref, yn golygu newidiadau sylweddol ar gyfer labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS). Mae PPDS yn fwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un lle ag y mae’n cael ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr ac mae yn y deunydd pecynnu hwn cyn i’r cwsmer ei archebu neu ei ddewis. 

  Gall gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain (e.e. o uned arddangos), yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter a rhywfaint o fwyd sy’n cael ei werthu mewn safleoedd gwerthu symudol neu dros dro.  

Cafodd y gyfraith hon ei henwi ar ôl y diweddar Natasha Ednan-Laperouse, a ddioddefodd adwaith alergaidd angheuol pan oedd ond yn 15 oed ar ôl bwyta baguette ‘artisiog, olifau a tapenâd’ o Pret a Manger. Roedd gan Natasha alergedd sesame ac nid oedd yn ymwybodol bod hadau sesame wedi’u pobi ymlaen llaw yn y bara. 

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS ei labelu gydag enw’r bwyd a rhestr lawn o’r cynhwysion â chynhwysion alergenig wedi’u pwysleisio yn y rhestr.  

Mae’r adnoddau ar gael am ddim ac yn cael eu cynnal ar wefan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig ac mae’n cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau ar bwnc alergenau bwyd. Yn gynwysedig mae fideo cyflwyno ymwybyddiaeth o alergenau; taflen yn ymdrin â negeseuon allweddol y cyflwyniad; fersiynau wedi’u trosleisio gydag isdeitlau o ‘Day in the Life of Chloe’ a ‘Megan’s Story’ (a gafodd eu cynhyrchu yn wreiddiol gan Gyngor Swydd Gaerhirfryn) a’n poster ‘Rhowch wybod inni os oes gennych alergeddau neu anoddefiadau bwyd’. 

Mae pob un ohonyn nhw wedi’i gynhyrchu yn Saesneg, Cymraeg, Bengaleg, Cantoneg, Cwrdeg, yr iaith Fandarin, Pwnjabeg, Twrceg ac Wrdw.   

Mae cyflwyniad craidd yn cyd-fynd â’r asedau hyn sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau alergenau bwyd. Mae hyn yn cynnwys rheoli alergenau, gwybodaeth am fwyd a rheolau labelu, gorsensitifrwydd bwyd a’r adweithiau y gall pobl eu cael iddyn nhw yn ogystal â sut beth yw byw gydag alergedd bwyd a’r canlyniadau dinistriol pan aiff pethau o chwith. 

Dywedodd Dilys Harris, Uwch Swyddog Safonau Masnach, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar ran Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf, “Rydyn ni’n falch o lansio’r adnodd gwerthfawr hwn ar alergenau bwyd sydd wedi’i gynhyrchu gyda chymorth yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Masnach Cymru. Bydd yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae’n addas ar gyfer busnesau bwyd, swyddogion gorfodi cyfraith bwyd a sefydliadau addysgol.  

“Ein nod yw hyrwyddo’r pwysigrwydd o labelu bwyd yn glir ac yn gywir y gall defnyddwyr ymddiried ynddo ac o gyflenwi bwyd yn ddiogel.

“Yn hanfodol, bydd hefyd yn helpu diweddaru gweithredwyr busnesau bwyd ynghylch newidiadau a ddaeth yn sgil ‘Deddf Natasha’, a ddaw i rym ar 1 Hydref 2021.”

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru,

“Mae gorsensitifrwydd bwyd yn flaenoriaeth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’n huchelgais ni yw i’r Deyrnas Unedig ddod y lle gorau yn y byd i bobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd bwyd.

“Mae’r newidiadau sydd ar ddod i ofynion labelu ar gyfer PPDS yn garreg filltir enfawr i bobl sy’n byw ag alergeddau bwyd a byddan nhw’n helpu i’w hamddiffyn drwy ddarparu gwybodaeth ar y pecynnu am alergenau a allai achub bywyd.

Rydyn ni’n croesawu adnoddau amlieithog newydd am alergenau Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf ac rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi cefnogi eu datblygiad. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu busnesau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod i labelu a byddan nhw’n adeiladu ar ein hadnoddau PPDS presennol ar gyfer busnesau, sydd ar gael ar www.food.gov.uk/cy.”

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru, “Mae rheoli alergenau yn effeithiol a darparu gwybodaeth glir a chywir am gynhwysion yn hanfodol bwysig i sicrhau diogelwch defnyddwyr. Mae’r diwydiant bwyd yng Nghymru yn rhyfeddol o amrywiol ac rydyn ni’n mwynhau bwyd o lawer o ddiwylliannau; mae Safonau Masnach Cymru yn falch o hyrwyddo’r adnodd hwn i helpu pob gweithredwr busnes bwyd i gydymffurfio â’r gofynion labelu newydd sy’n ymwneud ag alergenau.”

Dywedodd Sefydliad Ymchwil Alergedd Natasha, “Rydyn ni’n falch iawn o weld Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf yn lansio adnodd amlieithog i gynorthwyo busnesau bwyd i baratoi ar gyfer cydymffurfio â Deddf Natasha sy'n dod i rym mewn llai na mis. Mae'n cyfleu hanfod y gwaith y mae ein helusen wedi'i wneud drwy atgyfnerthu neges allweddol 'Peidiwch byth â dyfalu; byddwch yn ddiogel, nid yn sori; byddwch yn ymwybodol o alergeddau', ac rydyn ni'n hyderus y bydd yr offeryn hwn yn allweddol wrth greu ymwybyddiaeth ymysg staff o fewn busnesau lleol drwy greu dealltwriaeth am y pwysigrwydd o ddiogelwch alergeddau bwyd o ran achub bywydau.” www.narf.org.uk

 [email protected]

Dywedodd mam Megan, "Mae’r adnodd hwn sydd wedi cael ei gyfieithu i sawl iaith yn rhan hanfodol o sicrhau bod busnesau bwyd sydd â rhwystrau iaith yn deall sut i reoli alergeddau a diogelu eu cwsmeriaid.

Yn achos Megan, honnodd y perchennog nad oedd yn siarad Saesneg. Nid yw hyn yn amddiffyniad dros esgeulustod mewn busnes bwyd.

Gwnaeth Megan bopeth yn iawn fel cwsmer a datgan ei alergeddau bwyd. 

Rhaid i fusnesau bwyd fod yn rhagweithiol a deall sut i baratoi bwyd yn ddiogel a sut i reoli alergeddau, waeth beth yw iaith gyntaf eu staff.

Mae Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf, gyda help yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Masnach Cymru, wedi arwain y prosiect hwn, ac mae mor galonogol gwybod bod ots gan bobl a'u bod yn dal i’n helpu ni i ddod ag ymwybyddiaeth a newid er mwyn osgoi teulu arall rhag mynd drwy’r boen hon."

Dywedodd Cadeirydd Gweithgor Hil a Chydraddoldeb Sefydliad Siartredig Safonau Masnach, Tendy Lindsay, sydd hefyd yn aelod parchus o’r hen Uned Gynghori Twyll Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Mae’r ymgyrch ymwybyddiaeth alergenau gan Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf yn adnodd rhagorol i weithwyr proffesiynol yn y maes diogelu defnyddwyr, busnesau a defnyddwyr. Mae’n braf gweld bod yr adnodd mewn naw gwahanol ieithoedd a fydd yn sicrhau bod cymunedau amrywiol y DU yn gallu deall y wybodaeth. Dylai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y dyfodol ddefnyddio hwn fel enghraifft o sut i ymgysylltu â’r nifer o wahanol gymunedau sydd yma.”

 

DIWEDD

Nodiadau:

Notes: I defnu cyfweliadau cysylltwch ac [email protected]

Natasha Allergy Research Foundation

www.narf.org.uk 

Mae’r adnoddau yma:

www.tradingstandards.uk/foodallergens/resources
https://www.youtube.com/user/itsaLtd/videos



© 2024 Chartered Trading Standards Institute. All rights reserved.

1 Sylvan Court Sylvan Way, Southfields Business Park, Basildon, Essex, SS15 6TH.
Company no. RC000879

Investors in People and Customer excellence award logos

Website by: